Ymunwch â Gwasanaeth Negeseuon Cymunedol Gogledd Cymru

Hoffech chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf, cyngor ar atal trosedd a newyddion yn uniongyrchol gan OWL Cymru?

Ymunwch â’r Gwasanaeth Negeseuon Cymunedol heddiw! Dim ond munud mae’n ei gymryd ac mae’n rhad ac am ddim.

Beth yw’r Gwasanaeth Negeseuon Cymunedol?
Mae’r gwasanaeth yn defnyddio’r cyfleuster ‘Online Watch Link’ neu OWL sydd wedi ennill sawl gwobr er mwyn gadael i chi wybod beth sy’n digwydd yn ardal eich heddlu chi. Mae’n system awtomatig sy’n anfon negeseuon e-bost i chi sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, newyddion am eich heddlu lleol a chyngor ar atal trosedd. Gall hefyd anfon negeseuon testun byr yn syth i'ch ffôn symudol.

Er mwyn gallu manteisio ar y gwasanaeth Negeseuon Cymunedol mae'n rhaid i chi fod yn byw neu yn gweithio mewn cyfeiriad sydd wedi’i gofrestru yng Ngogledd Cymru. Gan amlaf byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost. Pe bai angen, mae’n bosib y byddwn yn anfon ambell i neges testun i'ch ffôn symudol er mwyn eich hysbysu o ddigwyddiadau brys neu argyfyngau.

Ar ôl i chi ymuno â’r Gwasanaeth Negeseuon Cymunedol byddwn yn gallu anfon negeseuon atoch sy’n berthnasol i Ogledd Cymru a/neu eich cymdogaeth neu’ch ardal. Bydd OWL yn anfon oddeutu un neu ddwy neges atoch bob pythefnos, er mae’n bosib y byddwch yn derbyn mwy o negeseuon pe bai angen. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn derbyn negeseuon drwy OWL yn barod gan eich bod yn aelod o gynllun Gwarchod y Gymdogaeth, nid oes rhaid i chi gofrestru oherwydd byddwch yn cael y Negeseuon Cymunedol yn awtomatig.

Diogelu eich Data
Pan fyddwch yn ymuno â’r gwasanaeth bydd eich manylion yn cael eu cadw mewn cronfa ddata ddiogel er mwyn i ni allu cyfathrebu â chi. Ni fydd eich manylion yn cael eu rhannu gydag unrhyw drydydd parti ac ni fyddant yn cael eu trosglwyddo i gronfeydd data eraill sydd gan yr heddlu neu’r llywodraeth. Gallwch ofyn i’ch manylion gael eu dileu ar unrhyw adeg neu wneud hyn eich hun ar-lein.

Uniongyrchol gan OWL Cymru